Amdanom ni

Distyllfa gin Cymreig swp bychan ydyn ni o bentref Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ar Ynys Môn oddi ar arfordir prydferth Gogledd Orllewin Cymru.

Ein nod yw creu gwirodydd crefft distylliedig gwirioneddol premiwm gan ddefnyddio cymaint o gynnyrch o Ynys Môn ag y gallwn.

Gin Cymreig - Mae ein hystod o gins crefft i gyd yn cael eu distyllu yn fewnol gan ddefnyddio cynnyrch lleol ym mhob un!

Rydym yn gwneud popeth yn y broses o ddistyllu, i botelu a labelu pob un botel yn fewnol yn ein micro-ddistyllfa yn Gaerwen.

Dros amser byddwn yn cyflwyno llinellau newydd i'n dewis, ond bydd hyn yn cymryd amser gan fod pob un rysáit yn cael ei greu, ei ddistyllu a'i brofi gennym ni'n bersonol ac mae hyn yn cymryd amser.

Rydym bob amser yn croesawu adborth ar ein cynnyrch felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ein cynnyrch

Rob a Maria